Welsh Tax Acts etc. (Power to Modify) Bill - Notice of Amendments - 26 May 2022
Welsh Tax Acts etc. (Power to Modify) Bill

Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) – Hysbysiad Ynghylch Gwelliannau Welsh Tax Acts etc. (Power to Modify) Bill - Notice of Amendments 1

HYSBYSIAD YNGHYLCH GWELLIANNAU NOTICE OF AMENDMENTS

Cyflwynwyd ar 26 Mai 2022 Tabled on 26 May 2022

Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)

Welsh Tax Acts etc. (Power to Modify) Bill

Rebecca Evans 2

Section 2, page 2, after line 25, insert—

‘( ) Regulations under section 1 may not make any provision relating to the investigation of criminal offences.

( ) Regulations under section 1 may not alter any procedure of Senedd Cymru relating to the making of a statutory instrument under any provision of those Acts.’.

Adran 2, tudalen 2, ar ôl llinell 26, mewnosoder—

‘( ) Ni chaiff rheoliadau o dan adran 1 wneud unrhyw ddarpariaeth sy’n ymwneud ag ymchwilio i droseddau.

( ) Ni chaiff rheoliadau o dan adran 1 newid unrhyw weithdrefn gan Senedd Cymru sy’n ymwneud â gwneud offeryn statudol o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Deddfau hynny.’.

Rebecca Evans 3

Section 4, page 3, after line 19, insert—

‘( ) No motion may be moved in Senedd Cymru for a resolution to approve the instrument during the period of 28 days beginning with the day on which the instrument is made.’.

Adran 4, tudalen 3, ar ôl llinell 20, mewnosoder—

‘( ) Ni chaniateir gwneud cynnig yn Senedd Cymru ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo’r offeryn yn ystod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn.’.

Rebecca Evans 4

Section 4, page 3, line 20, leave out ‘period of 60 days mentioned in subsections (5) and (6)’ and insert ‘periods mentioned in subsections (5), (6) and (subsection to be inserted by amendment 3)’.

Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) – Hysbysiad Ynghylch Gwelliannau Welsh Tax Acts etc. (Power to Modify) Bill - Notice of Amendments 2

Adran 4, tudalen 3, llinell 21, hepgorer ‘cyfnod o 60 niwrnod a grybwyllir yn is-adrannau (5) a (6)’ a mewnosoder ‘cyfnodau a grybwyllir yn is-adrannau (5), (6) a (yr is-adran sy’n cael ei mewnosod gan welliant 3)’.

Rebecca Evans 5

Page 4, after line 2, insert a new section—

‘[ ] Review of operation and effect of this Act

The Welsh Ministers must—

(a) review the operation and effect of this Act, and

(b) publish the conclusions of the review before the end of the period of 4 years beginning with the day on which this Act comes into force.’.

Tudalen 4, ar ôl llinell 2, mewnosoder adran newydd—

‘[ ] Adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf hon

Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a) adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf hon, a

(b) cyhoeddi casgliadau’r adolygiad cyn diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym.’.

Rebecca Evans 6

Page 4, after line 2, insert a new section—

‘[ ] Expiry of the power under section 1

(1) The power under section 1 expires at the end of the period of 5 years beginning with the day on which this Act comes into force, except so far as provided otherwise under this section.

(2) The Welsh Ministers may, by regulations, provide that the power under section 1—

(a) is not to expire at the end of the period mentioned in subsection (1), but

(b) is to continue in force for a further period, not exceeding 5 years, specified in the regulations.

(3) The power to make regulations under subsection (2)—

(a) is exercisable once only, and

(b) is exercisable by statutory instrument.

(4) A statutory instrument containing regulations under subsection (2) may not be made unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by a resolution of, Senedd Cymru.

(5) A draft of the instrument—

Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) – Hysbysiad Ynghylch Gwelliannau Welsh Tax Acts etc. (Power to Modify) Bill - Notice of Amendments 3

(a) may not be laid before Senedd Cymru before the conclusions of the review under section [section to be inserted by amendment 5] have been published, and

(b) may not be approved by a resolution of Senedd Cymru after the end of the period mentioned in subsection (1).

(6) The expiry of the power under section 1 does not affect the continuation in force of any regulations made under that power before its expiry.’.

Tudalen 4, ar ôl llinell 2, mewnosoder adran newydd—

‘[ ] Y pŵer o dan adran 1 yn dod i ben

(1) Daw’r pŵer o dan adran 1 i ben ar ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym, ac eithrio i’r graddau y darperir fel arall o dan yr adran hon.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu—

(a) nad yw’r pŵer o dan adran 1 i ddod i ben ar ddiwedd y cyfnod a grybwyllir yn is- adran (1), ond

(b) bod y pŵer o dan adran 1 i barhau mewn grym am gyfnod pellach, heb fod yn hwy na 5 mlynedd, a bennir yn y rheoliadau.

(3) Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (2)—

(a) yn arferadwy unwaith yn unig, a

(b) yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(4) Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (2) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(5) O ran drafft o’r offeryn—

(a) ni chaniateir ei osod gerbron Senedd Cymru cyn i gasgliadau’r adolygiad o dan adran [yr adran sy’n cael ei mewnosod gan welliant 5] gael eu cyhoeddi, a

(b) ni chaniateir ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1).

(6) Nid yw’r ffaith bod y pŵer o dan adran 1 wedi dod i ben yn effeithio ar barhad mewn grym unrhyw reoliadau a wnaed o dan y pŵer hwnnw cyn iddo ddod i ben.’.